A oes yna unrhywyn yng Nghymru heb fwynha bowlen enfawr o Gawl ar Ddydd Gwyl Dewi, dyma rysait y Stwidio am gawl, mae o ar y gweill yn barod!
Cynhwysion.
900g cig oen Cymreig, heddi ni'n defnyddio bron cig oen wedi'i rolio
1 llwy fwrdd o olew llysiol vegetable oil, or dripping
1 deilen Bay
6 corn pubur
2.5 litr o ddwr
5 Tatws, wedi'i dorri'n ddarnau bach
7 Moron, wedi'i dorri'n gylchoedd
1/2 Swêd, wedi'i dorri'n ddarnau bach
5 Panasen, wedi'i dorri'n gylchoedd
3 Genhinen - wedi'i dorri'n gylchoedd, gan gynnwys y gwyrdd
2 llond llaw o Bersil ffres - wedi'i dorri'n fân
I'w fwyta gyda .
Bara
Caws Caerfilli
Paratoi: 30mun Coginio: 2awr 30mun Serves: 4-6
Dull.
1. Browniwch y cig yn ysgafnmewn crochan yn yr olew neu ddriping i'w selio. Coginiwch am 10 munud wedyn ychwanegwch y dwr, pubur a'r ddeilen Bay. Dewch a'r dwr hyd at ei ferwi, rhowch y clawr ar y crochan a coginiwch am 1awr a 15munud.
2.
Sgimiwch wyneb y dwr a cymerwch bant y ddeilen Bay a'r cornau pubur ac unrhyw fraster o'r gig. Ychwanegwch y tatws, moron, swêd a'r pannas a coginiwch am 35 munud arall.
3. Ychwanegwch y Cennin a coginiwch am 10 munud ychwanegol.
Ychwanegwch y Persil, ychwanegwch helen a pubur i'ch blas - bwytwch ar unwaith gyda bara a cosyn o gaws Caerffili.