Cynllunydd, artist ac ymgynghorydd creadigol a lleolir yn ne Cymru yn Shaun Pinney. Cynhyrcha ddyluniadau ar gyfer cwmniau a mudiadau preifat a chyhoeddus led led y byd.
Ers cael ei dynnu o Prifysgol Cymru, Casnewydd* er mwyn arwain tîm creadigol ar gyfer un o brif cwmnïau marchnata Cymru, cafodd Shaun y fraint o weithio gyda nifer o gwmnïau dylunio Cymru, gyda thrawsdoriad eang o gleientau.
Gan iddo arbenigo ar waith dwyieithog ac aml-ieithog, mae Shaun wedi cynhyrchu gwaith ar gyfer cwmnïau yn Siapan, Korea, India, Tseina, Dubai, Hong Kong, UDA, De America ac wrth gwrs Ewrop. Tra'n datblygu brandiau a brand-brofiadau yn Hong Kong, cafodd gyfle i gyfarch prif symposiwm creadigol Asia, felly gall hawlio'n deg fod wir ganddo brofiad rhyngwladol.
Nôl yng Nghymru, mesur y parch at ei waith yw ei benodi ar baneli dewis nifer o bwyllgorau, gan gynnwys Bafta Cymru a'r Wyl Ffilm a Theledu Geltaidd. Fe'i wahoddwyd i rhannu ei wybodaeth eang am fyd masnach mewn gweithdai entrepreneriaeth mewn ysgolion uwchradd ar draws de Cymru.
Mae Shaun yn aelod o'r Chartered Society of Designers.
*Cafodd Shaun y fraint o ail frandio'r Prifysgol sawl mlynedd yn hwyrach!