Ni newydd gadarnhau byddwn yn digwyddiad Siambr Gorllewin a Canolbarth Cymru yn Stadiwm Liberty ar Fai y 10fed, a fydd Shaun yn gwisgo'i crys Scarlet? Falle na...
Chwefror 16th 2010
taith o ddibynniaeth i wellhâd...
Mae Stiwdio Shaun Pinney newydd orffen gwaith ar lyfr newydd 'No Room to Live' , llyfr yn dilyn taith personol at rhyddid wrth ddibynniaeth. Ar ôl gweithio'n agos gyda'r awdur ar y gwaith teipograffeg a cydweithio gyda gwith yr artist Carwyn Evans , mae'r llyfr yn barod i fynd i'r wasg.
Mae'r llyfr yn hunangofiant cyn-ddibynnwr uchel ei brofeil, Wynford Ellis Owen. I archebu'r llyfr nawr ewch i noroomtolive.com
Ionawr 12fed 2010
dioddefwyr, troseddwyr, dedfrydwyr...
Ni newydd orffen safle wê ar gyfer Bwrdd Prawf Gwent, cymerwch cip olwg ar gwentprobation.gov.uk
Rhagfyr 23ain 2009
mae'r concrît mewn...
Pan oedd pawb arall yn Nadoligaidd, ni di bod yn edrych mlaen at concrît! Roedd yn agos, awr o olau dydd ar ôl a'r tymheredd yn cwymo'n gyflym, fe welsom y seiliau y stiwdio newydd cael eu dylifio! Mae nawr lan i'r tywydd pryd bydd y gweddill yn cael eu ddechrau!
Awst 28ain 2009
beth digwyddai pe ddiflannai holl wenyn y byd...
All neb ddweud yn sicr, ac er y gallwn dal gynaeafu bananas a phinafalau, fe fyddwn yn colli'r holl blanhigion sy'n dibynnu ar wenyn ar gyfer peillioni. Ni fyddwn yn gallu creu dillad o gotwm (byddai cotwm yn diflannu), byddai llawer llai o foddion (mae nifer eang ohonynt yn dibynnu ar rhannau o blanhigion), ac am nad oes bwyd megis gwreiddiau a grawn i gwydo'r anifeiliaid - ni fydd cig ar gael. Ateb Einstein i'r cwestiwn oedd, "heb wenyn nid oes peillio, fellu dim planhigion. Heb planhigion does dim cig, heb cig does dim dynolrhyw...pedair blynedd yn unig byddai oes dynoliaeth."
Heb os, gwenyn yw'r cysonyn yn natblygiad y ddynoliaeth, ac maent nhw a'u gallu i greu mêl wedi cael eu parchu am filoedd o flynyddoedd.
Daw'r cofnod cyntaf o ddarlun mewn ogof yn Valencia a dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae gwenynwyr yn adrodd colled o thua 90% ers diwedd 2006. Yn sgil hyn, cred Stiwdio Shaun Pinney y gall pawb gael effaith ar wella'r boblogaeth o gwenyn ar draws y byd, er lles ein dyfodol ni, gyda Beevolution.
Am mwy o wydobaeth ac i ymuno a'r Beevolution cliciwch yma.
Awst 25ain 2009
gwedd-newidiad i ofal plant ym merthyr...
Gofynnwyd i Stiwdio Shaun Pinney greu hunaniaeth brand ar gyfer Merthyr Baby Sitters, gwasanaeth annibynnol newydd yn ardal Merthyr Tydfil.
Awst 2ail 2009
yr ystafell fyw caerdydd... Apwyntiwyd Stiwdio Shaun Pinney yn ymgynghorwyr creadigol ar ddatblygiad Yr Ystafell Fyw, Caerdydd. Canolfan unigryw ddwyieithog cyntaf ar gyfer gwellhâd yng Nghymru.